SL(6)301 – Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer pa ddosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy'n gymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”).   Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (Dosbarth M) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth M yn gymwys i bersonau sy’n ddioddefwyr y fasnach mewn pobl neu gaethwasiaeth ac y rhoddwyd iddynt ganiatâd dros dro i aros yn y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan Ddeddf Mewnfudo 1971. 

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy'n ymwneud â chymhwystra personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae'n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bobl, a elwir yn Ddosbarth N, sy'n gymwys i gael cymorth o'r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth M a fewnosodir gan reoliad 3.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau wedi’i osod yn Saesneg yn unig.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad yw fersiwn Gymraeg o’r Memorandwm Esboniadol wedi’i osod.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu dim ymgynghori ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“As the TPS is a product of reserved UK Government policy (immigration), it would not be possible to undertake a meaningful consultation on alternative approaches, as the effect of the 2022 Regulations[1] is to ensure consistency between Welsh housing law and immigration law.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt un.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Ionawr 2023

 

 



[1] Dylai'r cyfeiriad fod at Reoliadau 2023. Ymddengys fod hwn yn gamgymeriad yn y Memorandwm Esboniadol.